You can also read this article in English

Read in English

Oes gan fy mhlentyn Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd?

Mae Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADCG) yn gyflwr gydol oes. Mae modd cael diagnosis ar gyfer plentyn neu oedolyn. Gall ddangos ei bresenoldeb mewn sawl ffordd.

Mathau o ADCG

Mae ADCG fel arfer mewn un o’r tri chategori canlynol:

ADCG Gorfywiogrwydd a byrbwylltra

Gall rhywun ag ADCG gorfywiogrwydd a byrbwylltra fod yn gorfforol weithgar iawn.

Gall gynnwys:

  • Methu aros yn llonydd.
  • Anhawster aros yn ei sedd.
  • Siarad llawer.
  • Torri ar draws pobl eraill.
  • Ateb cwestiynau heb roi cyfle i bobl eraill.

ADCG Diffyg Sylw

Mae unigolyn ag ADCG diffyg sylw yn ei chael hi’n anodd cadw ei sylw ar rywbeth.

Gall hyn olygu:

  • Gwneud llawer o gamgymeriadau.
  • Hawdd i’w sylw gael ei wrthdynnu.
  • Anhawster wrth drefnu ei hun a’i waith.
  • Ymddangos yn anghofus.
  • Colli pethau.

Gynt, rhoddwyd diagnosis o Anhwylder Diffyg Sylw.

ADCG Cymysg (cyfuniad o’r ddau)

Mae llawer o bobl yn dangos symptomau o’r ddau, ac yn debyg felly o gael diagnosis o ADCG Cymysg.

ADCG mewn merched

Yn aml, bydd merched yn dangos mwy o symptomau o ADCG Diffyg Sylw nag o ADCG Gorfywiogrwydd. Gall fod yn anos wedyn i sylwi ar yr arwyddion.

Yn ogystal â’r arwyddion uchod, gall ADCG mewn merched olygu bod eich plentyn:

  • Yn encilgar.
  • Â lefel isel o hunan-barch.
  • Yn ymddangos yn emosiynol ac yn sensitif iawn.
  • Yn cael anhawster canolbwyntio.
  • Yn siarad llawer.

Gall merched ddangos llai o broblemau ymddygiadol.

Fel yn achos yr arwyddion eraill, nid yw’r arwyddion hyn bob amser yn golygu bod gan eich plentyn ADCG.

Nid oes neb yn gwybod beth yn union sy’n achosi ADCG, ond mae rhywfaint o dystiolaeth y gall redeg mewn teulu (Agor tudalen we Saesneg).  Os oes ADCG gan eich plentyn, efallai y dylai perthnasoedd biolegol ystyried cael diagnosis.

Gwybod y gwahaniaeth rhwng ADCG a datblygiad arferol

Mae rhai mathau o ymddygiad sy’n gysylltiedig ag ADCG yn rhan normal o ddatblygu a dysgu plant.  Nid ydynt bob amser yn golygu bod gan eich plentyn ADCG.

Gall fod yn anodd gwybod a oes gan eich plentyn ADCG, yn arbennig pan fydd yn ifanc iawn. Mae’n iawn i gymryd amser i weld y darlun cyfan.

Rhaid ystyried eich plentyn fel unigolyn

Ceisiwch osgoi cymharu ymddygiad eich plentyn ag ymddygiad plant eraill wrth ystyried ADCG. Mae pob unigolyn yn datblygu yn ei ffordd ei hun. Hefyd, nid yw’r ymddygiad a welwch gan blant eraill ddim ond yn rhan fach o brofiadau’r plant hynny.

Cadw nodiadau

Os oes angen rhagor o dystiolaeth i nodi a oes gan eich plentyn ADCG, trïwch i gadw cofnod. Nodwch beth sy’n digwydd sy’n eich arwain i feddwl y gallai fod ganddo ADCG. Gallwch ddefnyddio’r nodiadau i weld patrymau, ac i’w rhannu â gweithwyr meddygol proffesiynol.

Ymarfer dulliau ymdopi

Mae gennym awgrymiadau ar gefnogi plentyn ag ADCG (Agor tudalen we Saesneg). Nid oes angen diagnosis cyn ceisio pethau a allai helpu’ch plentyn gyda’i emosiynau. Daliwch i wrando ar, a siarad â, eich plentyn. Gall diagnosis ddod wedyn.

Gorchuddio ADCG

Efallai na fydd ymddygiad eich plentyn mor amlwg yn yr ysgol. Gall hyn ddigwydd os na fydd yn dangos ‘arwyddion clasurol’ ADCG. Efallai y byddwch yn teimlo bod eich plentyn yn cuddio’r symptomau yn yr ysgol. Gelwir hyn yn ‘gorchuddio’.

Os ydych o’r farn nad yw’r ysgol yn sylwi ar yr arwyddion yr ydych yn eu gweld, dylech siarad â’r ysgol. Gofynnwch iddynt nodi’r arwyddion hyn.

Os ydych yn credu y gallai fod ADCG gan eich plentyn

Os ydych o’r farn bod eich plentyn yn cael anhawster mewn rhai o’r meysydd uchod, gallwch:

  • Siarad â’r ysgol. Gofyn am siarad â’r Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig neu’r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol.
  • Gallant wylio’ch plentyn a chynnig barn am unrhyw gymorth y gallai fod ei angen. Gallant atgyfeirio’ch plentyn am asesiad.
  • Siarad â’ch ymwelydd iechyd, os bydd eich plentyn dan 5 oed.
  • Siarad â’ch meddyg teulu. Bydd yn holi nifer o gwestiynau am ymddygiad eich plentyn gan argymell y camau nesaf.

Gall meddyg atgyfeirio’ch plentyn am asesiad os bydd y ddau ohonoch yn cytuno bod angen.

Hefyd, gallwch gadw dyddiadur ymddygiad (Agor tudalen we Saesneg). Gallwch ddefnyddio’r wybodaeth hon pan fyddwch yn siarad â’r meddyg.

Cael ail farn

Os nad yw’r athro neu weithwyr proffesiynol eraill yn gweld yr hyn sy’n eich pryderu, gall fod yn anos cael diagnosis.

Os bydd eich plentyn yn ifanc iawn, gallwch gadw dyddiadur a thrafod pethau eto gyda gweithwyr proffesiynol pan fydd eich plentyn yn hŷn.

Fel arall, gallwch geisio ail farn neu ddiagnosis preifat.

Mae sefydliadau sy’n cynnig cymorth gyda’r broses ddiagnosis yn cynnwys:

Cefnogi plentyn ag ADCG

Mae ymennydd ADCG yn gweithio mewn ffordd wahanol. Mae’n bwysig deall paham y bydd eich plentyn ym ymddwyn mewn ffordd arbennig, a beth y mae angen i chi ei wneud gartref i’w helpu.

Darllenwch ein cyngor ar gefnogi plentyn ag ADCG (Agor tudalen we Saesneg).

Mae gan Sefydliad ADHD (Agor tudalen we Saesneg) gyngor ar geisio cymorth addas hefyd.

happy childhood icon

Ein hyfforddwyr Parent Talk profiadol sydd wedi ysgrifennu’r cyngor hwn. Mae Parent Talk yn wasanaeth ar-lein am ddim i rieni a gofalwyr, sy’n cael ei ddarparu gan yr elusen Gweithredu dros Blant. I gael rhagor o gyngor, anfonwch neges at ein hyfforddwyr magu plant drwy gael sgwrs ar-lein.

Rhagor o gyngor yn Gymraeg

Siaradwch â ni

Siaradwch am y materion sy’n eich poeni â hyfforddwr magu plant. Mae modd sgwrsio ar-lein yn gyfrinachol, ac am ddim.