You can also read this article in English

Read in English

Mae fy nghyn-gymar yn defnyddio trefniadau gofal plant i’m rheoli 

Os ydych chi’n credu bod cyn-gymar yn defnyddio trefniadau gofal plant i’ch rheoli, mae’n bwysig ceisio cymorth. Gall ymddygiad rheoli ddigwydd mewn partneriaeth neu briodas. Ond gall ddigwydd hefyd ar ôl i chi â’ch partner wahanu. 

Pan fydd rhywun yn defnyddio patrwm ymddygiad i reoli’ch gweithredoedd, gelwir hyn yn rheolaeth gymhellol. Gall effeithio ar eich hunan-barch neu’ch annibyniaeth. 

Os ydych chi’n pryderu y gall rhywun weld eich bod wedi ymweld â’r dudalen hon, mae Atal Cam-drin Domestig yn esbonio sut i guddio’ch hanes ar-lein. (Agor tudalen we Saesneg) 

Darllenwch hwn yn Saesneg/ Read this in English: My ex is using childcare arrangements to control me 

Arwyddion rheolaeth gymhellol

Nid yw bob amser yn hawdd gweld arwyddion rheolaeth gymhellol. Gall rhywun geisio dweud wrthych sut i ymddwyn neu beth i feddwl, neu ddwyn eich rhyddid. Gall y bydd yn defnyddio’ch arian neu’ch amser at ei ddibenion ei hun yn hytrach nag at eich dibenion chi. Efallai y byddwch yn teimlo’n ofnus, yn ddarostyngedig, neu’n ynysedig. Weithiau, gall y fath ymddygiad gynnwys ymosodiad corfforol.  

Ymhlith yr arwyddion bod eich cyn-gymar yn defnyddio trefniadau gofal plant i’ch rheoli yw: 

  • Rhwystro cyswllt â’ch plentyn. Neu rwystro cyswllt oni fyddwch yn gwneud rhywbeth y mae wedi gofyn i chi ei wneud. 
  • Methu â pharchu ffiniau wrth i chi dreulio amser gyda’r plentyn. Anfon negeseuon testun neu ffonio yn aml pan fydd y plentyn gyda chi. 
  • Methu â chasglu’r plentyn ar yr amser a drefnwyd, er mwyn eich anhwyluso. 
  • Gwrthod gofalu am y plentyn pan fydd yn gwybod bod cynlluniau pwysig gennych. 
  • Ceisio annog y plentyn i beidio â threulio amser gyda chi. Gall ddweud pethau gwael amdanoch. Weithiau, mae hyn yn cael ei alw’n ‘ddieithrio plentyn oddi wrth riant’. 
  • Gwrthod gorfodi rheolau megis amser gwely neu arferion beunyddiol. Gall hyn ei wneud yn anos i chi pan fyddwch chi’n gofalu am y plentyn. 
  • Dweud nad yw am i chi adael y plentyn yng ngofal neb arall, megis teulu neu ffrindiau. Gall hyn wneud i chi ddibynnu arno i raddau mwy, gan olygu bod ganddo fwy o reolaeth. 
  • Bygwth mynd â chi i lys i gael gwarchodaeth y plentyn. 

Diogelu eich hun a’ch plant

Weithiau bydd anghytundeb nad yw’n ymwneud â rheolaeth. Dylech bob amser geisio trafod yr hyn sy’n eich pryderu gyda’ch cyn-gymar. Ceisiwch ddatrys y broblem ar y cyd, a cheisiwch gadw at unrhyw gytundeb a wnaed. 

Os ydych yn pryderu o gwbl am ymddygiad eich cyn-gymar, sicrhewch eich bod yn siarad â rhywun. Mae camau eraill y gallwch eu cymryd i’ch diogelu chi a’ch plentyn: 

  • Lleihau cyfathrebu â’ch cyn-gymar. Cadw at yr hyn sydd ei angen i wneud trefniadau ar gyfer y plentyn. 
  • Cadw gofnod o’r holl gyfathrebu â’r rhiant arall, a chynnwys manylion o gyswllt â’ch plentyn. 
  • Os bydd modd, trefnu bod rhywun arall yn bresennol wrth drosglwyddo’r plentyn o un rhiant i’r llall. Gofyn i gyfaill neu aelod o’r teulu oruchwylio cyfarfodydd. Neu gofyn i rywun yr ydych yn ymddiried ynddo drosglwyddo negeseuon rhyngoch chi. 
  • Defnyddio ‘app’ ar gyfer cyfathrebu er mwyn lleihau’r posibiliad o wrthdaro. Dyma enghreifftiau: App Close, Our Family Wizard, neu 2 Houses. 
  • Os yw’ch cyn-gymar wedi atal cyswllt rhyngoch chi a’ch plentyn, ceisio aros yn ddigynnwrf. Ceisio cyngor cyfreithiol cyn gynted â phosibl. Peidio â’i aflonyddu neu ei fygwth, na cheisio defnyddio grym i fynd â’r plentyn. 
  • Cadw neu gofnodi negeseuon testun, galwadau, neu fygythiadau difrïol, a hysbysu’r heddlu trwy alw 101. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod tystiolaeth o’r hanes ar gael. Ffonio 999 os ydych mewn perygl sydyn. 

Ble i gael help

Mae rheolaeth gymhellol yn fath o gam-drin. Cewch gymorth o’r canlynol: 

happy childhood icon

Ein hyfforddwyr Parent Talk profiadol sydd wedi ysgrifennu’r cyngor hwn. Mae Parent Talk yn wasanaeth ar-lein am ddim i rieni a gofalwyr, sy’n cael ei ddarparu gan yr elusen Gweithredu dros Blant. I gael rhagor o gyngor, anfonwch neges at ein hyfforddwyr magu plant drwy gael sgwrs ar-lein.

Rhagor o gyngor yn Gymraeg

Siaradwch â ni

Siaradwch am y materion sy’n eich poeni â hyfforddwr magu plant. Mae modd sgwrsio ar-lein yn gyfrinachol, ac am ddim.