You can also read this article in English

Read in English

Beth allaf ei wneud os bydd fy mhlentyn yn hunan-niweidio? 

Os ydych chi’n meddwl bod eich plentyn yn hunan-niweidio, mae’n bwysig cael cymorth i chi a’ch teulu.  

Gall pobl ifanc ddefnyddio hunan-niweidio fel modd o ymdopi ag emosiynau anodd nad ydynt yn gwybod sut i’w mynegi. Yn rhiant neu ofalwr, mae pethau y gallwch eu gwneud i’w helpu i ddeall ei deimladau a dod o hyd i ddulliau eraill o ymdopi. 

Os yw’ch plentyn mewn perygl sydyn o gael ei niweidio, neu os yw ei fywyd mewn perygl, galwch 999 neu ewch i’r adran Damweiniau ac Achosion Brys. 

Darllenwch hwn yn Saesneg/ Read this in English: What can I do if my child is self-harming?  

Cael cymorth i chi a’ch plentyn

Siaradwch â rhywun yr ydych yn ymddiried ynddo, neu rywun annibynnol, am yr hyn sy’n digwydd. Anogwch eich plentyn i siarad â rhywun hefyd. Dulliau o gael cymorth:  

Sut y gallwch gefnogi’ch plentyn

Sicrhewch fod eich plentyn yn gwybod eich bod yno iddo, ac y gall drafod unrhyw beth gyda chi (Agor tudalen we Saesneg) . Cymerwch amser i ddeall beth mae’n mynd trwyddo a pham y byddai eisiau hunan-niweidio. Ceisiwch osgoi bod yn feirniadol am yr hunan-niweidio. Gall gymryd amser i bethau newid, ac mae’n bwysig cefnogi’ch plentyn ar ei daith, hyd yn oed pan fydd pethau’n anodd. 

Pethau eraill y gallwch eu gwneud: 

  • Os yw’ch plentyn yn teimlo’n gyffyrddus i drafod ei deimladau gyda chi, cewch ofyn am gymorth proffesiynol i lunio ‘cynllun diogelwch’ (Agor tudalen we Saesneg) . Gall hyn fod yn fodd iddo roi gwybod i chi sut mae am i chi helpu pan fydd yn teimlo’r awydd i hunan-niweidio. Mae hefyd yn gyfle i drafod mesurau diogelwch a sut i gael cymorth meddygol. 
  • Rhowch bethau miniog neu niweidiol i gadw. Ond cofiwch y gall eich plentyn chwilio am rywbeth arall os bydd yn teimlo awydd cryf i hunan-niweidio. 
  • Os yw’ch plentyn yn defnyddio hunan-niweidio yn strategaeth ymdopi, mae’n annhebyg o ymatal yn syth. Siaradwch ag e am sut i osgoi heintiad. Mae hyn yn cynnwys golchi’r anaf ac unrhyw eitemau a ddefnyddiwyd a sicrhau bod cadachau ar gael yn y cartref.

Strategaethau ymdopi ar gyfer hunan-niweidio

Helpwch eich plentyn i ddod o hyd i ddulliau ymdopi pan fydd yn meddwl am hunan-niweidio. 

  • Anogwch eich plentyn i ddeall yn well ei ysgogiadau a dulliau ymdopi. Mae gan Rethink Mental Illness a The Mix wybodaeth ddefnyddiol am hyn.
  • Awgrymwch i’ch plentyn ei fod yn trio apiau sy’n helpu i reoli emosiynau a lleihau’r awydd i hunan-niweidio. Mae’r rhain yn cynnwys Blue Ice, Calm Harm a Distract.
  • Gwnewch focs ‘lleddfol’.  Dylai’r bocs gynnwys pethau a allai helpu pan fydd eich plentyn yn teimlo’r awydd i hunan-niweidio. Gall y rhain gynnwys ffotograffau, llythyrau gan bobl sy’n agos ato, neu hoff ddanteithion. Hefyd, gallwch gynnwys rhestr o ganeuon neu fideos, troellwr bys, neu dechneg anadlu (Agor tudalen we Saesneg).

Cewch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sut i helpu plentyn sy’n hunan-niweidio, gan gynnwys profiadau rhieni eraill, yn Young Minds.

Hefyd, mae gan Mind ragor o wybodaeth am hunan-niweidio (Agor tudalen we Saesneg).

happy childhood icon

Ein hyfforddwyr Parent Talk profiadol sydd wedi ysgrifennu’r cyngor hwn. Mae Parent Talk yn wasanaeth ar-lein am ddim i rieni a gofalwyr, sy’n cael ei ddarparu gan yr elusen Gweithredu dros Blant. I gael rhagor o gyngor, anfonwch neges at ein hyfforddwyr magu plant drwy gael sgwrs ar-lein.

Rhagor o gyngor yn Gymraeg

Siaradwch â ni

Siaradwch am y materion sy’n eich poeni â hyfforddwr magu plant. Mae modd sgwrsio ar-lein yn gyfrinachol, ac am ddim.