You can also read this article in English

Read in English

Sut alla i helpu os bydd fy mhlentyn yn teimlo’n bryderus?

Mae tyfu i fyny’n golygu wynebu llawer o heriau, felly mae teimlo’n bryderus neu’n ofnus o bryd i’w gilydd yn naturiol. Gall fod sawl rheswm am y fath deimladau.

Gallwch helpu trwy sicrhau bod eich plentyn yn gwybod ei bod yn iawn i siarad am ei iechyd meddwl.

Darllenwch hwn yn Saesneg/ Read this in English: How can I help when my child feels anxious? 

Deall teimladau pryderus a gorbryder

Gall eich plentyn bryderu am ddigwyddiadau megis arholiadau, neu newidiadau mawr yn ei fywyd megis mynd i ysgol newydd neu symud tŷ. Mae hyn yn normal, ac yn aml yn gwella wrth i’r plentyn ddod yn arfer â’r ‘normal newydd’. Os bydd gan eich plentyn anabledd dysgu neu awtistiaeth, gall bryderu mwy na phlant eraill o’r un oedran, a gall gymryd mwy o amser i addasu i’r newid. 

Mae rhai plant a phobl ifanc yn pryderu mwy nag eraill, a gall hyn effeithio ar eu bywyd beunyddiol. Os oes gan rywun anhwylder gorbryder (Agor tudalen we Saesneg), mae hynny’n golygu y bydd yn teimlo’n bryderus y rhan fwyaf o’r amser. Gall effeithio ar fwyta, cysgu a gallu’r plentyn i fynd i’r ysgol. Gall golli gweithgareddau. 

Gydag amser, gall eich plentyn ddatblygu dulliau o reoli’r teimladau hyn. Ond os bydd teimladau pryderus yn effeithio ar ei fywyd beunyddiol, gallai fod o help i ddod o hyd i gymorth ychwanegol. 

Bod ar gael i wrando

Ceisiwch fabwysiadu’r arfer o drafod sut mae pethau’n mynd bob diwrnod, yn hytrach na gwneud hynny dim ond pan fydd rhywbeth yn mynd o’i le. Ni fydd plant hŷn a phlant yn eu harddegau bob amser am rannu eu teimladau. Dylech barchu eu gofod preifat gan adael iddynt wybod eich bod yno iddynt os oes angen. 

  • Gofynnwch i’ch plentyn sut mae’n teimlo. Gadewch iddo rannu beth bynnag mae am ei rannu. 
  • Ceisiwch ddod ag emosiynau i mewn i sefyllfaoedd beunyddiol. Gall hyn fod wrth i chi wylio’r teledu, neu wrth gerdded, darllen neu chwarae gêm, er enghraifft. 
  • Os nad yw’ch plentyn am siarad, gofynnwch a fyddai rhyw ymagwedd arall yn well. Efallai y bydd yn hapusach sgwrsio trwy negeseuon testun, neu trwy WhatsApp, neu gallwch arbrofi gyda thermomedr teimladau (Agor tudalen we Saesneg).

Efallai y bydd yn well gan eich plentyn ymddiried yn ei gyfoedion, neu oedolyn arall, yn hytrach na chi. Mae hynny’n digwydd yn aml wrth i blant ddatblygu.

Dysgwch iddo sut i reoli ei deimladau

Dangoswch i’ch plentyn ei bod yn iawn siarad am deimladau. Dywedwch wrtho sut yr ydych chi’n teimlo, a beth yr ydych chi’n mynd i’w wneud i reoli’ch emosiynau. Dylech siarad am sut i ryddhau teimladau cadarnhaol neu anodd, efallai trwy gerddoriaeth neu fynd am dro yn yr awyr agored. 

Cewch awgrymu gweithgareddau i’w helpu i reoli ei deimladau. Cofiwch gyflwyno’r syniadau hyn pan fydd eich plentyn yn teimlo’n llonydd yn hytrach nag yng nghanol argyfwng. 

Hefyd, mae gennym gyngor am helpu’ch plentyn gyda gorbryder gwahanu (Agor tudalen we Saesneg).

Ceisiwch gymorth i’ch plentyn

Cewch ddod o hyd i gymorth ychwanegol i chi a’ch plentyn: 

  • Siaradwch â’ch meddyg teulu. Gall y meddyg eich atgyfeirio i wasanaethau cymorth megis Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (Agor tudalen we Saesneg).
  • Cysylltwch ag ysgol eich plentyn i holi a oes cymorth ychwanegol ar gael.
  • Mae The Mix yn cynnig cymorth cyfrinachol am ddim i bobl ifanc dan 25 oed ar-lein, dros y ffôn, neu trwy gyfryngau cymdeithasol.
  • Mae Shout yn wasanaeth neges testun cyfrinachol am ddim i unrhyw unigolyn sy’n cael anhawster ymdopi. Anfonwch ‘Shout’ i 85258.

Os ydych yn pryderu y bydd gorbryder yn golygu bod risg y bydd eich plentyn yn hunan-niweidio, mae gennym gyngor ar hunan-niweidio, anhwylderau bwyta (Agor tudalen we Saesneg) a meddyliau hunanladdol (Agor tudalen we Saesneg).

Eisiau rhagor o gymorth? Am gyngor ar broblem benodol, cewch siarad ag un o’n hyfforddwyr rhianta (Agor tudalen we Saesneg).

happy childhood icon

Ein hyfforddwyr Parent Talk profiadol sydd wedi ysgrifennu’r cyngor hwn. Mae Parent Talk yn wasanaeth ar-lein am ddim i rieni a gofalwyr, sy’n cael ei ddarparu gan yr elusen Gweithredu dros Blant. I gael rhagor o gyngor, anfonwch neges at ein hyfforddwyr magu plant drwy gael sgwrs ar-lein.

Rhagor o gyngor yn Gymraeg

Siaradwch â ni

Siaradwch am y materion sy’n eich poeni â hyfforddwr magu plant. Mae modd sgwrsio ar-lein yn gyfrinachol, ac am ddim.