You can also read this article in English

Read in English

Sut ydw i’n delio â gwrthod mynd i’r ysgol a gorbryder ynghylch yr ysgol?

Gall beri pryder os yw eich plentyn yn gwrthod mynd i’r ysgol.

Yn y canllaw hwn, cewch wybodaeth am resymau posibl dros wrthod mynd i’r ysgol a gorbryder ynghylch yr ysgol a sut y gallwch chi gael y cymorth sydd ei angen ar eich plentyn.

Darllenwch hwn yn Saesneg/ Read this in English: How do I deal with school refusal? 

Beth yw gwrthod mynd i’r ysgol?

Fel arfer, bydd plentyn yn gwrthod mynd i’r ysgol pan fydd yn rhy bryderus i fynd. Mae’n cael ei alw weithiau yn orbryder ynghylch yr ysgol neu ffobia ysgol. Os yw eich plentyn yn gwrthod mynd i’r ysgol, mae’n bwysig canolbwyntio ar y rheswm dros ei orbryder i’w helpu i ddychwelyd i’r ysgol.

Yn dibynnu ar ei oedran a’i gam datblygu, efallai y bydd eich plentyn sydd â gorbryder ynghylch yr ysgol:

  • Yn cynhyrfu ac yn glynu wrthych pan gaiff ei ollwng.
  • Yn sâl yn gorfforol cyn mynd i’r ysgol.
  • Yn gwrthod gadael y tŷ i fynd i’r ysgol yn y bore.
  • Yn mynd yn gynhyrfus neu’n ymosodol, yn enwedig yn y bore.
  • Yn gadael yr ysgol neu’n colli gwersi yn ystod y dydd.
Faint o ysgol y gall fy mhlentyn ei golli?

Mae’r rhan fwyaf o blant yn colli ysgol oherwydd salwch neu apwyntiadau meddygol. Bydd polisi presenoldeb eich ysgol yn esbonio sut y dylech roi gwybod iddyn nhw os oes angen i’ch plentyn golli ysgol. Os oes gan eich plentyn anghenion meddygol hirdymor, dylech chi ddweud wrth yr ysgol a dylen nhw ystyried hyn. Mae gan GOV.UK gyngor ar salwch ac addysg eich plentyn (yn agor tudalen we Saesneg).
Os bydd eich plentyn yn colli ysgol yn rheolaidd (mwy na 15 diwrnod fel arfer) heb reswm da, bydd angen i’r ysgol roi gwybod i’r awdurdod lleol. Gallan nhw roi’r canlynol i chi:

  • Gorchymyn Rhianta – bydd angen i chi fynd i ddosbarthiadau rhianta a dilyn cyngor a roddwyd gan y llys.
  • Gorchymyn Goruchwylio Addysg – bydd goruchwyliwr yn cael ei benodi i’ch helpu i gael eich plentyn i’r ysgol.
  • Gorchymyn Mynychu’r Ysgol – gofynnir i chi ddarparu tystiolaeth bod eich plentyn yn cael addysg.
  • Dirwy – gofynnir i rieni dalu dirwy ac, os na fyddwch chi’n talu, efallai y cewch eich erlyn.

Os ydych chi’n poeni y gallech chi neu eich plentyn fynd i drafferth oherwydd ei fod yn gwrthod mynd i’r ysgol, dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Mae yna ffyrdd o gefnogi eich plentyn a’i helpu i ddychwelyd i’r ysgol.

Pam mae fy mhlentyn yn gwrthod mynd i’r ysgol?

Mae llawer o resymau pam y gall plant deimlo’n orbryderus am fynd i’r ysgol. Deall yr hyn maen nhw’n poeni amdano yw’r cam cyntaf tuag at gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw yn yr ysgol.

Cwympo allan gyda ffrindiau

Mae cyfeillgarwch yn rhan bwysig o fywyd ysgol eich plentyn. Pan fydd yn teimlo fel nad oes ganddo unrhyw ffrindiau, neu os yw wedi cwympo allan gyda grŵp o ffrindiau, gall hyn wneud iddo deimlo’n unig ac yn ynysig. I bobl ifanc yn eu harddegau, gall perthnasau cyntaf a pherthnasau yn chwalu am y tro cyntaf (yn agor tudalen we Saesneg) arwain at orbryder ynghylch yr ysgol hefyd.

  • Gadewch i’ch plentyn wybod y gall siarad â chi am broblemau y mae’n eu cael gyda ffrindiau. Gallwch chi ddilyn ein cyngor gwrando gweithredol (yn agor tudalen we Saesneg). Gallech chi hefyd ei annog i ysgrifennu ei deimladau i lawr ar bapur.
  • Yn dibynnu ar oedran a dealltwriaeth eich plentyn, gallech chi siarad ag ef am sut i reoli gwrthdaro. Efallai y byddwch chi’n teimlo eich bod chi am gymryd rhan a siarad â’r ffrind sydd wedi gwneud iddo bryderu, neu ei rieni, ond mae’n well dysgu eich plentyn sut i ddatrys y sefyllfa ei hun.
  • Helpwch eich plentyn i feddwl am gynllun ar gyfer pan fydd yn yr ysgol. A oes grwpiau eraill y gall ddechrau treulio amser gyda nhw, neu a oes oedolyn dibynadwy y gall droi ato os bydd ar ei ben ei hun a heb ffrindiau?
  • Cefnogwch eich plentyn i wneud ffrindiau y tu allan i’r ysgol, efallai trwy ymuno â chlybiau neu ddechrau hobïau newydd. Os yw’n siarad â phobl ar-lein, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ymwybodol o ddiogelwch ar-lein.
  • Gwnewch yn siŵr bod yr ysgol yn ymwybodol. Gallan nhw helpu i ddatrys problemau ac annog cyfeillgarwch arall fel nad yw eich plentyn yn cael ei adael allan.
Os yw eich plentyn yn cael ei fwlio

Mae gan eich plentyn yr hawl i deimlo’n ddiogel yn yr ysgol ac os yw’n osgoi’r ysgol oherwydd ei fod yn cael ei fwlio neu’n cael ei fygwth, mae angen cymryd hyn o ddifrif.

  • Gadewch i’ch plentyn wybod ei bod yn ddiogel iddo ddweud wrthych beth sy’n digwydd a beth mae’n ei ofni. Mae’n bwysig ei fod yn teimlo ei fod yn cael ei ddeall a’i gefnogi.
  • Cymerwch gamau ymarferol fel casglu tystiolaeth a llunio cynllun diogelwch. Gallwch chi ddarllen cyngor ar beth i’w wneud pan fydd eich plentyn yn cael ei fwlio (yn agor tudalen we Saesneg).
  • Rhowch wybod i’r ysgol. Dylai ei pholisi bwlio ddweud wrthych sut maen nhw’n ymateb i fwlio ac efallai y bydd angen iddyn nhw gynnwys yr heddlu hefyd.

Mynnwch gymorth ar gyfer iechyd meddwl eich plentyn. Os yw’n teimlo’n orbryderus ar ôl cael ei fwlio, gallwch siarad â meddyg teulu neu gwnselydd.

Problemau gyda'r ysgol

Nid dim ond ochr gymdeithasol yr ysgol sy’n gallu gwneud i’ch plentyn deimlo’n orbryderus. Weithiau mae plant yn poeni am eu gwaith ysgol neu rannau eraill o fywyd ysgol. Ceisiwch siarad â’ch plentyn am ei ddiwrnod a darganfod pa ran sy’n peri gofid iddo.

  • Gwaith ysgol. Efallai ei fod yn cael trafferth neu’n teimlo ei fod ar ei hôl hi mewn pwnc penodol neu efallai ei fod wedi colli rhywfaint o waith cartref.
  • Gwersi addysg gorfforol. Os yw eich plentyn yn ansicr am ei gorff neu’n ei chael hi’n anodd gwneud ymarfer corff, efallai ei fod yn teimlo’n orbryderus am newid neu’r gwersi eu hunain.
  • Amseroedd cinio. Gall y neuadd ginio fod yn lle swnllyd a phrysur a all fod yn arbennig o heriol i blant niwrowahanol. Weithiau mae gan blant broblemau gyda bwyd a bwyta o gwmpas pobl eraill, yn enwedig os oes ganddyn nhw anhwylder bwyta (yn agor tudalen we Saesneg).
  • Gwrthdaro gydag athrawon. Efallai bod eich plentyn yn osgoi athro am ei fod yn teimlo nad yw’r athro yn ei hoffi neu’n teimlo ei fod yn ei erlid. Os ydych chi’n poeni bod hyn yn digwydd, rhowch wybod i’r ysgol.
Pethau sy'n digwydd gartref

Weithiau mae materion byrdymor neu hirdymor a all ei gwneud hi’n anodd cael eich plentyn i’r ysgol. Mae gwasanaethau cymorth ar gael i’ch helpu gyda phethau fel cludiant o’r cartref i’r ysgol neu gael cynllun cymorth. Darllenwch sut y gall gwasanaethau cymorth cynnar helpu (yn agor tudalen we Saesneg).

  • Os yw eich plentyn yn ofalwr ifanc, efallai y bydd yn colli ysgol oherwydd ei fod yn teimlo bod ganddo gyfrifoldebau gartref.
  • Os ydych chi wedi symud yn ddiweddar neu os yw eich plentyn yn newydd i’r ysgol. Gall hyn fod yn arbennig o anodd i deuluoedd sy’n symud o gwmpas llawer, fel Teithwyr a theuluoedd sydd â rhiant yn y lluoedd arfog. Gallwch chi ddod o hyd i gymorth i rieni a phlant ar wefan Mudiad Teithwyr (yn agor tudalen we Saesneg).
  • Os oes problemau gartref fel cam-drin domestig neu gamddefnyddio alcohol neu gyffuriau neu unrhyw beth arall sy’n cael effaith negyddol ar eich teulu.
  • Os oes ysgariad, gwahanu neu brofedigaeth wedi bod yn y teulu.
  • Os yw rhiant oddi cartref, yn gweithio i ffwrdd er enghraifft, neu os yw’r rhiant yn y carchar (yn agor tudalen we Saesneg).

Sut alla i helpu fy mhlentyn i ddychwelyd i’r ysgol?

Os yw eich plentyn yn teimlo’n orbryderus ynghylch yr ysgol neu’n gwrthod mynd i’r ysgol, gall fod yn gyfnod pryderus i chi fel rhiant. Mae’n debygol y byddwch chi am iddo ddychwelyd i’r ysgol cyn gynted â phosibl a dychwelyd i’ch trefn arferol. Y peth pwysicaf yw sicrhau bod eich plentyn yn teimlo ei fod yn cael ei gefnogi drwy ei orbryder, yna gallwch chi adeiladu ar gynllun i ddychwelyd i’r ysgol.

Helpu eich plentyn i fynd i'r afael â theimladau o orbryder

Cofiwch fod eich plentyn, fwy na thebyg, yn ei chael hi’n anodd ymdopi â theimlo’n orbryderus. Siaradwch am yr hyn sy’n ei boeni, gan sicrhau eich bod chi’n gwrando ar yr hyn mae’n ei ddweud. Ceisiwch helpu eich plentyn i deimlo’n llai pryderus yn hytrach na brwydro yn ei erbyn.

  • Ceisiwch nodi’r sbardunau. Ceisiwch feddwl am strategaethau a all gefnogi’ch plentyn pan fydd yn wynebu pethau sy’n ei wneud yn amharod i fynd i’r ysgol.
  • Ceisiwch osgoi dadlau i’w gael i mewn i’r ysgol ac edrychwch ar yr hyn sydd wrth wraidd y broblem yn lle hynny. Mae hyn yn dangos eich bod chi ar ei ochr ef, yn gweithio tuag at yr un nod.
  • Rhowch gynnig ar dechnegau rheoli pryder. Er enghraifft, defnyddiwch ‘amser pryderu‘ (yn agor tudalen we Saesneg) neu’r gweithgaredd coeden bryder (yn agor tudalen we Saesneg) i’w helpu i reoli ei bryderon. Gallwch chi ddod o hyd i fwy o adnoddau i’w defnyddio ar yr ap Decider Skills (yn agor tudalen we Saesneg).
  • Defnyddiwch ganmoliaeth, gwobrwywch eich plentyn (yn agor tudalen we Saesneg) a gwnewch yn siŵr eich bod chi’n sylwi ar unrhyw ymdrechion y mae’n eu gwneud.
  • Helpwch eich plentyn i ymarfer ymarferion anadlu a thechnegau tawelu (yn agor tudalen we Saesneg). Gall hyn ei helpu i feithrin yr hyder sydd ei angen arno i ddychwelyd i’r ysgol.
  • Defnyddiwch ddull gweithredu cyson. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n rhoi amser i’ch strategaethau weithio.
  • Mae gennym gyngor ar sut i helpu os yw eich plentyn yn teimlo’n orbryderus am newidiadau neu gyfnodau pontio yn yr ysgol (yn agor tudalen we Saesneg).
Gwneud cynllun i'ch helpu i ymdopi

Gwnewch yn siŵr bod y drefn foreol yn aros yr un fath, hyd yn oed os nad yw eich plentyn yn mynd i’r ysgol. Gwnewch iddo ddeffro ar yr un pryd a bwyta brecwast. Lle bo’n bosibl, gwnewch i’r boreau deimlo’n normal.

Gyda chymorth ysgol eich plentyn, gosodwch dasgau dysgu gartref (yn agor tudalen we Saesneg). Rhowch gyfyngiadau ar gemau ac amser teledu, ac osgoi rhoi bwydydd ‘hwyl’ a danteithion iddo. Gall hyn annog eich plentyn i aros gartref yn amlach.

  • Ewch ati i greu cynllun gyda’ch plentyn i’w helpu i oresgyn ei bryderon.
  • Efallai mai’r nod cyntaf fydd cwblhau’r drefn foreol.
  • Nesaf, teithio i’r ysgol efallai, ond ddim mynd i mewn.

Yna, rhowch gynnig ar fore neu brynhawn yn yr ysgol.

Siaradwch â’ch plentyn am unrhyw deimladau neu bryderon sydd ganddo yn ystod y broses.

Un cam ar y tro

Os yw’r syniad o fynd yn ôl i’r ysgol yn ormod i’ch plentyn, gallwch chi dorri’r her yn rhannau llai ac adeiladu tuag ati. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol i blant niwrowahanol. Yn hytrach na mynd o’r drefn foreol i deithio i’r ysgol heb fynd i mewn, gallwch chi ychwanegu rhai camau. Er enghraifft, os yw eich plentyn yn dal y bws i’r ysgol fel arfer, gallech chi roi cynnig ar y canlynol:

  • Mynd i’r safle bws ond peidio â mynd ar y bws.
  • Mynd ar y bws gydag oedolyn neu ffrind y gellir ymddiried ynddo am un neu ddau o arosfannau.
  • Mynd ar y bws a theithio’r holl ffordd i’r ysgol gydag oedolyn neu ffrind y gellir ymddiried ynddo.
  • Mynd ar y bws a siarad ag oedolyn neu ffrind y gellir ymddiried ynddo ar y ffôn wrth deithio i’r ysgol.
  • Mynd ar y bws a gwrando ar gerddoriaeth wrth deithio i’r ysgol.

Y syniad yw cynyddu hyder eich plentyn a lleihau faint o gefnogaeth y mae’n ei chael ar bob cam. Ar ôl peth amser, dylai deimlo’n gyfforddus â’r rhan honno o’r broses. Yna gallwch chi feddwl am weithio tuag at y nod nesaf.

Lle galla i gael help?

Gall fod yn gyfnod anodd pan fydd eich plentyn yn cael trafferth mynd i mewn i’r ysgol neu aros yn yr ysgol a gall fod yn anodd gwybod lle i droi, yn enwedig gan y bydd llawer o’r heriau’n digwydd gartref cyn i chi hyd yn oed gyrraedd yr ysgol. Gall fynd yn fwyfwy anodd pan fydd yr ysgol yn edrych ar bresenoldeb, a gall fod yn effeithio ar eich gallu i gyrraedd y gwaith, yn ogystal â’r pryderon sydd gennych am les eich plentyn a’r addysg y mae’n ei cholli.

Mae’n dda deall y gallwch chi ofyn am gymorth gyda hyn a phwy all helpu.

Gweithio gyda'r ysgol

Mae’n well gweithio gyda’r ysgol lle bynnag y bo modd pan fyddwch chi’n cael problemau gyda phresenoldeb yn yr ysgol, beth bynnag fo’r rheswm am y problemau.

  • Gwnewch apwyntiad i siarad ag athro dosbarth eich plentyn, ei Bennaeth Blwyddyn neu’r cydlynydd anghenion addysgol arbennig am y problemau y mae eich plentyn yn eu cael i weld a oes unrhyw gymorth ychwanegol a all gael ei gynnig.
  • Os yw eich ysgol wedi anfon llythyr atoch am bresenoldeb eich plentyn, gofynnwch am gyfarfod gyda’r arweinydd presenoldeb a allai helpu i lunio cynllun cymorth.
  • Yn dibynnu ar y rhesymau pam y gallai eich plentyn fod yn ei chael hi’n anodd mynd i’r ysgol, edrychwch ar bolisïau’r ysgol a sicrhau eu bod yn dilyn eu protocolau penodol (er enghraifft lle mae achosion posibl o fwlio neu os oes anghenion dysgu ychwanegol neu os oes materion yn ymwneud â chyfeillgarwch neu gyfathrebu).
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn siarad â’r ysgol am unrhyw faterion y gallai eich plentyn fod yn eu cael a bod cynllun cymorth ar waith. Dylai cynlluniau cymorth gael eu hadolygu’n rheolaidd a’u rhannu â rhieni.
  • Os yw eich plentyn ar Gynllun Addysg, Iechyd a Gofal (EHCP) (yn agor tudalen we Saesneg), gallwch chi ofyn am adolygiad os ydych chi’n teimlo nad yw’r strategaethau cymorth sydd ar waith yn effeithiol.
  • Os nad oes gan eich plentyn EHCP, gallwch chi ofyn am asesiad EHCP ar gyfer gorbryder.
  • Efallai y bydd yr ysgol yn gallu cynnig cymorth gydag atgyfeiriadau i weithwyr proffesiynol eraill os teimlir bod angen mwy o gymorth nad ydynt yn gallu ei ddarparu.
Cynnwys gwasanaethau eraill

Ochr yn ochr â’r ysgol, gallwch chi weithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill i gael cymorth i’ch plentyn ac adeiladu cofnod o dystiolaeth i’ch helpu pan fyddwch chi’n llunio cynllun cymorth.

  • SENDIAS – os oes gan eich plentyn anghenion addysgol arbennig neu anabledd, gallwch chi gysylltu â’ch gwasanaeth gwybodaeth a chyngor SEND lleol (yn agor tudalen we Saesneg). Mae’r gwasanaeth yn cael ei redeg gan y cyngor lleol neu drydydd parti a gomisiynir ac mae yno i gynnig cymorth i blant a phobl ifanc ag AAA a’u rhieni.
  • Swyddog Lles Addysg (EWO) – mae gan bob ysgol EWO enwebedig. Gallwch chi ofyn i’r ysgol eich cyfeirio at y Gwasanaeth Lles Addysg a byddan nhw’n cwrdd â chi a’ch plentyn i drafod unrhyw broblemau y mae’n eu cael o ran mynd i’r ysgol.
  • Cymorth Cynnar – nod y gwasanaeth hwn yw nodi a chydlynu unrhyw weithwyr proffesiynol sydd eu hangen i gefnogi eich plentyn. Gallwch chi ofyn i’r ysgol eich cyfeirio neu gallwch chi gyfeirio’ch hun. Darllenwch fwy am gymorth cynnar (yn agor tudalen we Saesneg).
  • Tîm Nyrsio Ysgol – mae’r gwasanaeth nyrsio ysgolion yn cael ei redeg gan eich Ymddiriedolaeth GIG leol. Maen nhw’n gweithio gyda chi, eich plentyn a’r ysgol i sicrhau iechyd a lles eich plentyn. Os yw iechyd meddwl neu gorfforol eich plentyn yn ei gwneud hi’n anodd iddo fynd i’r ysgol, gall y tîm nyrsio gynnig cyngor a chefnogaeth.
  • Meddyg teulu – os yw eich plentyn yn teimlo’n orbryderus, mae’n syniad da siarad gyda’i feddyg teulu. Gall y meddyg teulu wneud atgyfeiriadau i wasanaethau eraill am gymorth ac efallai y bydd angen cofnod meddygol o orbryder eich plentyn arnoch os ydych chi’n gwneud cais am EHCP.
  • Gweithwyr gofal iechyd proffesiynol – os yw eich plentyn dan ofal unrhyw weithwyr iechyd proffesiynol eraill fel therapydd lleferydd ac iaith neu bediatrydd, gallan nhw hefyd ddarparu tystiolaeth ar gyfer cynllun cymorth neu EHCP.
  • Gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc – nod y gwasanaethau, sydd weithiau’n cael eu galw’n CYMPMHS neu CAMHS (yn agor tudalen we Saesneg), yw cefnogi pobl ifanc gyda’u hiechyd meddwl a’u lles. Gallwch chi gael atgyfeiriad i CAMHS drwy eich meddyg teulu.
  • Cyngor cyfreithiol – os ydych chi’n teimlo nad yw’r ysgol ac asiantaethau eraill yn cefnogi eich plentyn gyda’r gorbryder y mae’n ei deimlo ynghylch yr ysgol yn y ffordd y dylen nhw, gallwch chi gael cyngor gan Gyngor ar Bopeth neu Gyngor Cyfraith Plant (yn agor tudalen we Saesneg).
Cefnogaeth i chi a'ch teulu

Pan fydd eich plentyn yn gwrthod mynd i’r ysgol, gall effeithio ar y teulu cyfan. Os yw’r sefyllfa yn effeithio ar eich iechyd meddwl, mae’n bwysig cael help i chi’ch hun. Darllenwch ein cyngor ar beth i’w wneud os ydych chi’n cael trafferth ymdopi (yn agor tudalen we Saesneg).

Gwnewch yn siŵr bod pobl o’ch cwmpas yn gwybod beth sy’n digwydd fel y gallan nhw eich cefnogi. Mae’n syniad da siarad â’ch cyflogwr rhag ofn y bydd angen i chi gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith i ofalu am eich plentyn tra ei fod adref o’r ysgol.

Os oes gennych chi ffrindiau a theulu o’ch cwmpas, siaradwch â nhw am yr hyn sy’n digwydd. Efallai y byddan nhw’n gallu helpu i ofalu am eich plentyn weithiau i roi ychydig o amser i chi eich hun neu amser i chi ganolbwyntio ar eich plant eraill.

Sut alla i addysgu fy mhlentyn sy’n gwrthod mynd i’r ysgol?

Weithiau mae rhieni a gofalwyr yn teimlo eu bod wedi rhoi cynnig ar bopeth ond does dim ffordd o gael eu plentyn i fynd yn ôl i’r ysgol. Ar y pwynt hwn, efallai eich bod yn meddwl am dynnu eich plentyn allan o’r ysgol ac yn ystyried pa opsiynau eraill sydd ar gael i chi.

 

Ceisiwch gynnwys eich plentyn cymaint â phosibl a thrafod yr hyn y mae’n credu y byddai’n iawn iddo ef.

Addysg ran-amser a hyblyg

Cyn tynnu eich plentyn allan o’r ysgol yn gyfan gwbl, gallech chi siarad â’r ysgol am unrhyw newidiadau yn yr amserlen a fyddai’n gwneud pethau’n haws.

Os yw’r ysgol yn gweithio gyda chi i helpu eich plentyn, dylai fod cynllun cymorth ar waith. Gall hyn gynnwys amserlen ran-amser neu ddychwelyd yn raddol. Ystyriwch pa rannau o’r diwrnod sydd fwyaf heriol i’ch plentyn a gweld a allwch chi weithio ffordd o’u cwmpas. Er enghraifft, os yw amser cinio yn amser pryderus i’ch plentyn, efallai y gallech chi fynd â nhw adref i gael cinio.

Fel arfer, rhoddir trefniadau rhan-amser a hyblyg ar waith am gyfnod mesuredig er mwyn helpu eich plentyn i ddychwelyd i addysg amser llawn. Efallai y bydd rhai ysgolion yn cynnig amserlen ran-amser yn barhaol, er enghraifft os ydych chi am gyfuno ysgol ag addysg gartref, ond nid yw hyn yn bosibl bob amser.

Symud i ysgol wahanol

Os ydych chi a’ch plentyn yn teimlo y gallai symud i ysgol arall fod yn opsiwn gwell, gallwch chi wneud cais i’r ysgol neu’r cyngor lleol i symud i ysgol arall yn eich dalgylch.

Os nad yw academïau ac ysgolion prif ffrwd lleol y wladwriaeth yn addas i’ch plentyn, gallech chi edrych ar wahanol fathau o ysgolion, fel:

  • Darpariaeth amgen – mae amrywiaeth o amgylcheddau dysgu ar gyfer plant sydd ddim yn ymdopi mewn ysgol brif ffrwd, gan gynnwys unedau cyfeirio disgyblion, ysgolion coedwig a ffermydd therapiwtig. Dysgwch fwy am ddarpariaeth amgen (yn agor tudalen we Saesneg).
  • Ysgolion arbennig – os oes gan eich plentyn anghenion ychwanegol a bod ganddo EHCP, gallai ysgol arbennig neu uned arbennig sydd ynghlwm wrth ysgol brif ffrwd (caiff ei galw weithiau yn ganolfan adnoddau arbenigol) fod yn addas iddo. Maen nhw’n cynnig dosbarthiadau bach ac yn arbenigo mewn gwahanol feysydd o anghenion addysgol arbennig.
  • Colegau technegol – os yw eich plentyn rhwng 14 a 19 oed ac os yw’n well ganddo bynciau ymarferol neu dechnegol i waith academaidd, gallai coleg technegol fod yn addas iddo.
  • Ysgolion preifat – mae’r dosbarthiadau bach mewn ysgol breifat yn fwy addas i rai plant a phobl ifanc. Mae ysgolion preifat yn ysgolion lle’n mae’n rhaid talu ffioedd, ond yn aml maen nhw’n cynnig ysgoloriaethau a bwrsariaethau. Mae ysgolion Waldorf neu Steiner yn fathau o ysgol breifat sy’n canolbwyntio ar greadigrwydd.
Addysg yn y cartref

Mae mwy a mwy o rieni yn dewis addysg yn y cartref fel dewis amgen i’r ysgol. Mae gwahanol ffyrdd o wneud hyn. Mae rhai rhieni’n dysgu eu plant eu hunain, tra bod eraill yn cofrestru eu plentyn mewn ysgol ar-lein.

Gall addysg yn y cartref fod yn wych i’ch plentyn, ond mae’n benderfyniad mawr sy’n effeithio ar y teulu cyfan. Darllenwch ein cyngor ar addysg yn y cartref:

happy childhood icon

Ein hyfforddwyr Parent Talk profiadol sydd wedi ysgrifennu’r cyngor hwn. Mae Parent Talk yn wasanaeth ar-lein am ddim i rieni a gofalwyr, sy’n cael ei ddarparu gan yr elusen Gweithredu dros Blant. I gael rhagor o gyngor, anfonwch neges at ein hyfforddwyr magu plant drwy gael sgwrs ar-lein.

Rhagor o gyngor yn Gymraeg

Siaradwch â ni

Siaradwch am y materion sy’n eich poeni â hyfforddwr magu plant. Mae modd sgwrsio ar-lein yn gyfrinachol, ac am ddim.