You can also read this article in English

Read in English

Deall a rheoli ymddygiad fy mhlentyn 

Os ydych chi’n cael anhawster ymdopi ag ymddygiad eich plentyn, mae sawl peth y gallwch eu gwneud. Mae o gymorth deall beth allai fod achos yr ymddygiad yn y lle cyntaf.  

Darllenwch hwn yn Saesneg/ Read this in English: Understanding and managing my child’s behaviour 

Gwybod o ble daw’r ymddygiad

Mae ymddygiad yn fath o gyfathrebu. Os bydd eich plentyn yn ymddwyn mewn modd anodd ei reoli, gall olygu:  

  • Ei fod wedi blino.  
  • Bod angen bwyd arno.  
  • Ei fod yn nerfus.  
  • Ei fod yn ofidus.  
  • Ei fod yn ymdopi â newid.  
  • Ei fod yn ceisio deall y byd.   
  • Ei fod am dreulio amser gyda chi.  

Rydym yn sôn yn aml am ‘stranciau’ a ‘colli tymer’. Gallant beri pryder i rieni, yn arbennig mewn lle cyhoeddus. Gallant gael eu hysgogi gan sbardunau gwahanol. Ond mae’r ddau yn fodd i’ch plentyn ddangos ei fod yn teimlo nad oes ganddo reolaeth a’i fod yn cael ei lethu.  

Gwylio am ymddygiadau dysgu

Weithiau, bydd plentyn yn gwneud rhywbeth tro ar ôl tro, oherwydd ei fod yn dysgu a fforio. Gallai daflu pethau, pacio pethau neu gyfuno gwrthrychau a’u tynnu ar wahân.  

Yn achos babi neu blentyn bach, mae hyn yn ffordd o archwilio’r byd a darganfod sut mae pethau’n gweithio.   

Os bydd gweithredoedd ailadroddol eich plentyn yn peri problem, chwiliwch am ffyrdd o wrthdynnu’r cymhelliant. Er enghraifft, ydy’r plentyn yn arllwys y teganau allan eto bob tro yr ydych yn eu tacluso? Trïwch lenwi potiau â thywod, dŵr, neu basta sych fel y gall eu harllwys i bot neu hambwrdd arall.   

Yn achos plentyn sydd am daflu pethau, trïwch ddod o hyd i ddulliau o gefnogi hyn yn y cartref mewn modd diogel gyda gêm neu rywbeth meddal.   

Helpu eich plentyn i brosesu ei emosiynau

Gallai newid yn ymddygiad eich plentyn fod yn ganlyniad o gael anhawster wrth brosesu emosiynau. Dylech gydnabod ei bod yn iawn i’ch plentyn gael y fath deimladau.  

Trïwch ei helpu i roi enwau ar yr emosiynau. Gall hyn ei helpu i fynegi’r broblem, gan ei gwneud yn haws i chi ddeall o ble daw’r ymddygiad. Mae hynny’n golygu y gallwch ei helpu gyda strategaethau i gefnogi ei emosiynau. 

Arwain trwy esiampl

Mae plant yn dysgu trwy gopïo, felly dangoswch y fath o ymddygiad yr ydych am ei weld yn y ffordd yr ydych chi’n gweithredu. Ceisiwch aros yn dawel mewn sefyllfaoedd anodd. Os bydd eich plentyn yn eich gweld neu eich clywed yn gwaeddi pan fyddwch yn grac, bydd yn dysgu gwneud yr un peth.   

Gall chwarae rôl a chwarae byd bach (Agor tudalen we Saesneg) fod yn ffordd dda o atgyfnerthu hyn. Hefyd, gallwch lunio siart caredigrwydd teuluol (Agor tudalen we Saesneg).

Defnyddio canlyniadau ac esboniad

Ceisiwch fod yn gyson ac yn deg yn eich ymagwedd. Rhowch reolau teg, sy’n addas i’w oedran, i’ch plentyn gan esbonio paham eu bod o bwys.   

Os bydd eich plentyn yn torri rheol, ceisiwch ddefnyddio canlyniadau naturiol. Gall hyn fod yn gyfle dysgu ac yn ffordd o adeiladu gwydnwch.  

Canlyniad yw’r hyn sy’n digwydd yn sgil ymddygiad. Enghraifft o ganlyniad naturiol yw’r ffaith na fydd gan y plentyn degan penodol bellach os bydd yn ei dorri. Rydym i gyd yn dysgu trwy wneud camgymeriadau.  Dyma sut yr ydym yn datblygu dealltwriaeth a strategaethau.   

Amcanion canlyniadau naturiol

Dylai canlyniadau naturiol:  

  • Helpu’ch plentyn i ddysgu: Os bydd yn troi’r bocs teganau drosodd, bydd raid iddo godi’r teganau a’u tacluso cyn symud i’r gweithgaredd nesaf.   
  • Ymwneud â’r hyn a wnaeth: Os na fydd yn gwisgo ei esgidiau, ni chaiff fynd y tu allan i chwarae.   
  • Atgyfnerthu’r rhesymau am ofyn iddo wneud pethau.  

Canlyniadau am blant hŷn

Yn achos plant yn eu harddegau a phlant hŷn, gallwch osod canlyniadau sy’n ymwneud â rheolau’r tŷ. Dylech gynnwys eich plentyn wrth osod y rheolau a’r canlyniadau. Mae hynny’n golygu ei fod yn deall y rheolau a phaham eu bod wedi’u gosod.    

Gall canlyniadau am blentyn hŷn olygu:   

 Dylai canlyniad fod yn ffordd i’r plentyn ddysgu, nid yn gosb.   

Canlyniadau cadarnhaol

Hefyd, gallwch drio system wobrwyo sy’n dathlu ymddygiad cadarnhaol. Yn gyffredinol, mae plant o bob oed yn ymateb yn dda i ganmoliaeth a gwobr.  

Pan fydd eich plentyn yn ymddwyn mewn modd anodd, defnyddiwch iaith gadarnhaol i’w arwain i gyfeiriad arall. Fel hyn rydych yn dal i ymgysylltu â’ch plentyn, ond heb ganolbwyntio ar yr ymddygiad negyddol. Pan fydd yr ymddygiad yn dirwyn i ben, dylech gydnabod hynny. Canmolwch yr ymddygiad yr ydych am ei weld.   

Meddwl am eich iaith

Yn lle dweud, “paid â rhedeg dros y ffordd”, gallwch ddweud, “mae’n fwy diogel i gerdded dros y ffordd”.  

Meddyliwch am sut yr ydych yn rhyngweithio â’ch plentyn gweddill yr amser hefyd. Dangoswch lawer o gariad a dweud eich bod yn ei garu.   

Hefyd, gall y gweithredoedd hyn helpu:   

  • Chwarae neu dreulio amser gyda’ch plentyn.   
  • Rhoi’ch sylw llawn iddo – diffodd y ffôn, peidio â gwneud beth yr oeddech chi’n ei wneud, sicrhau cyswllt llygaid.   
  • Cynnwys eich plentyn wrth wneud penderfyniadau fel ei fod yn teimlo elfen o reolaeth.   

Ceisiwch osgoi beirniadu, gwaeddi, bygwth, neu fychanu eich plentyn. Osgowch ddefnyddio geiriau sy’n labelu’ch plentyn. Gall y rheini danseilio ei hunan-barch a’i les emosiynol. Cofiwch mai’r ymddygiad sydd yn heriol, nid y plentyn.

Anelu at ddefnyddio gwobrau

Mae sawl math o wobr. Gall fod mor syml â chanmol y plentyn a chydnabod rhywbeth mae wedi’i wneud.   

Gallwch addasu’r wobr i’r sefyllfa. Yn aml, mae plant ifanc yn dwlu ar gael sticeri. Gallant fod yn wobr sydyn neu’n rhan o system wobrwyo (dolen i ddefnyddio siart gwobrau).    

Gall rhestr, bwrdd, neu jar gydag ambell i wobr y mae’ch plentyn yn ei hoffi fod o ddefnydd. Meddyliwch am y pethau y mae’ch plentyn yn hoffi eu gwneud. Gall fod yn stori ychwanegol amser gwely, ymweliad â’r parc, neu wylio hoff raglen neu ffilm gyda’ch gilydd. Mae’r rhain i gyd yn ffyrdd arbennig o dreulio amser gyda’ch gilydd hefyd. Wrth i’r plentyn fynd yn hŷn, gallwch newid y gwobrau i adlewyrchu ei anghenion a’i ddiddordebau.

Gwobrwyo nid llwgrwobrwyo

Nid yw gwobrwyo yr un peth â llwgrwobrwyo.   

  • Mae gwobrwyo yn fodd o gydnabod ymddygiad yr ydym yn fodlon arno neu’n falch ohono.   
  • Llwgrwobrwyo yw cynnig rhywbeth i annog y plentyn i wneud rhywbeth.   

Er enghraifft, os bydd y plentyn yn mynd yn y bygi pan yr ydych yn gofyn iddo, gallwch roi gwobr iddo – sticer neu ganmoliaeth. Bydd yn cysylltu’r wobr â dringo yn y bygi ar eich cais. Bydd hyn yn gysylltiad cadarnhaol.    

Ond os ydych yn cynnig sticer neu ddantaith iddo am ddringo yn y bygi, mae hynny’n llwgrwobrwyo. Gall ddisgwyl yr un peth y tro nesaf, a gall hynny osod patrwm. 

Gwybod ei bod yn iawn i wneud camgymeriad

Nid yw bod yn rhiant neu ofalwr yn beth hawdd. Bydd pob plentyn yn ymddwyn mewn modd heriol ar ryw adeg, ac ni fyddwch bob amser yn gwybod sut i ymateb. Os ydych yn teimlo eich bod ar fin colli’ch tymer, camwch yn ôl o’r sefyllfa, gan dawelu’ch hunain cyn ymateb.   

Dylech gydnabod yr hyn yr ydych yn ei wneud yn dda, a gofyn am gymorth pan fydd angen.  

Delio â lludded rhiant (Agor tudalen we Saesneg)

happy childhood icon

Ein hyfforddwyr Parent Talk profiadol sydd wedi ysgrifennu’r cyngor hwn. Mae Parent Talk yn wasanaeth ar-lein am ddim i rieni a gofalwyr, sy’n cael ei ddarparu gan yr elusen Gweithredu dros Blant. I gael rhagor o gyngor, anfonwch neges at ein hyfforddwyr magu plant drwy gael sgwrs ar-lein.

Rhagor o gyngor yn Gymraeg

Siaradwch â ni

Siaradwch am y materion sy’n eich poeni â hyfforddwr magu plant. Mae modd sgwrsio ar-lein yn gyfrinachol, ac am ddim.