You can also read this article in English

Read in English

Beth yw CAIP a CAU, a sut all fy mhlentyn gael un? 

Os bydd gan eich plentyn anghenion ychwanegol neu anghenion addysgol arbennig (AAA), gall cynllun cymorth helpu. Gall y fath gynllun fod yn: 

  • Cynllun Addysg, Iechyd a Gofal (CAIP). 
  • Cynllun Addysg Unigol (CAU). 

Mae’r ddau yn canolbwyntio ar anghenion unigol eich plentyn er mwyn ei helpu i gyrraedd ei lawn botensial. 

Darllenwch hwn yn Saesneg/ Read this in English: What is an EHCP and an IEP, and how can my child get one? 

Beth mae AAA yn golygu?

Gall eich plentyn fod ag AAA neu anghenion ychwanegol os bydd yn cael: 

  • Anawsterau emosiynol ac ymddygiadol. 
  • Anawsterau gwybyddol (deall, prosesu a dysgu). 
  • Anawsterau gyda siarad, iaith a chyfathrebu. 
  • Anawsterau synhwyraidd neu gorfforol (gan gynnwys cyflyrau meddygol a nam ar y golwg neu ar y clyw). 

Yn ôl y gyfraith, mae gan blentyn AAA os bydd ganddo anhawster dysgu neu anabledd y mae angen darpariaeth addysgol arbennig i ymateb iddo. 

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng CAIP a CAU?

Mae CAU yn nodi amcanion eich plentyn am y flwyddyn ysgol ac unrhyw gymorth arbennig y mae ei angen i’w helpu: 

  • Gall ysgol eich plentyn lunio CAU a’i roi ar waith. Gallwch weithio gyda’r ysgol i ddatblygu’r fath gynllun. 
  • Gall ysgol lunio CAU am unrhyw blentyn. Yn aml, gwneir hyn cyn cyflwyno cais am CAIP. Gall fod yn lle CAIP, os bydd ysgol eich plentyn yn gallu diwallu anghenion eich plentyn heb gymorth ychwanegol. 

Mae CAIP yn amlygu unrhyw anghenion addysgol arbennig a allai fod gan eich plentyn. Mae hefyd yn nodi’r cymorth y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ei ddarparu i helpu’ch plentyn. 

  • Mae’n ddogfen gyfreithiol. Mae hynny’n golygu bod gofyniad cyfreithiol ar eich awdurdod lleol i ddarparu’r cymorth a amlygir yn y cynllun. 
  • Mae angen i gais am CAIP brofi bod anghenion eich plentyn y tu hwnt i beth y gall yr ysgol ei ddarparu. Fel arall, ni fydd yr awdurdod lleol yn ystyried y cais.

Sut caiff y cymorth ei ddarparu?

Bydd gan ysgol eich plentyn gofrestr neu gynllun AAA. Mae Cydlynydd AAA yr ysgol yn rheoli’r gofrestr AAA. Bydd yn ychwanegu’ch plentyn i’r gofrestr os bydd angen cymorth ychwanegol arno. 

  • Wedyn, dylai’r ysgol siarad â chi a llunio CAU i’ch plentyn. Bydd y cynllun hwn yn nodi pa gymorth y gall yr ysgol ei ddarparu i’ch plentyn. Bydd yn esbonio sut caiff y cymorth ei ddarparu. Darllenwch ein herthygl am weithio gydag ysgol eich plentyn i gael cymorth AAA (Agor tudalen we Saesneg).
  • Os bydd angen mwy o gymorth ar eich plentyn, y cam nesaf fel arfer fyddai gwneud cais am CAIP. Ni fydd yr awdurdod lleol yn cymeradwyo’r cynllun oni fydd yr ysgol yn methu â diwallu anghenion eich plentyn yn ôl yr hyn a nodir yn y CAU. 
  • Mae’n bwysig i’r ysgol fod yn agored gyda chi, gan ystyried eich barn a’ch teimladau. Dylai staff yr ysgol eich cynnwys wrth drafod unrhyw broblemau y mae’ch plentyn yn eu hwynebu a’u heffaith ar ei addysg. 

Nid oes angen diagnosis ffurfiol wrth roi CAU ar waith neu er mwyn ceisio CAIP. Ond, er mwyn ceisio CAIP, bydd angen ei bod yn debyg bod gan y plentyn AAA. Yn aml, bydd y broses o gael diagnosis ar waith wrth wneud y cais, ond gall y broses ymgeisio gychwyn cyn cael y diagnosis ffurfiol. 

Gwneud cais am CAIP

Yn rhiant neu ofalwr, gallwch gyflwyno cais am CAIP ar ran plentyn neu berson ifanc hyd at 25 oed. Caiff pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed gyflwyno eu cais eu hunain. Efallai bydd ysgol neu leoliad blynyddoedd cynnar eich plentyn yn cynnig ysgrifennu’r cais yn gofyn am asesiad anghenion CAIP. 

Gofynnir i’r ysgol ddarparu tystiolaeth ar gyfer cais am CAIP. Os nad yw staff yr ysgol o’r farn bod angen CAIP ar eich plentyn, gall fod angen i chi drafod hyn gyda nhw a cheisio dod i gytundeb. 

I wneud cais am CAIP, darllenwch drosolwg y llywodraeth am sut i gychwyn y broses ymgeisio (Agor tudalen we Saesneg). Mae gan SENDIASS dempled ar gyfer llythyr (Agor tudalen we Saesneg) (PDF). 

Os ydych chi’n byw yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon

Nid yw awdurdodau lleol yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon yn llunio CAIP. Yn lle, cewch geisio:    

happy childhood icon

Ein hyfforddwyr Parent Talk profiadol sydd wedi ysgrifennu’r cyngor hwn. Mae Parent Talk yn wasanaeth ar-lein am ddim i rieni a gofalwyr, sy’n cael ei ddarparu gan yr elusen Gweithredu dros Blant. I gael rhagor o gyngor, anfonwch neges at ein hyfforddwyr magu plant drwy gael sgwrs ar-lein.

Rhagor o gyngor yn Gymraeg

Talk to us

Talk about the issues that are worrying you with a parenting coach. Use our free and confidential online chat.