Cymorth i rieni yng Nghymru. Darllenwch ein herthyglau Saesneg ar fagu plant neu siaradwch â ni drwy sgwrs fyw yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Support for parents in Wales. Read our parenting articles in English or speak to us via live chat in Welsh or English.
Rydyn ni wrth law i’ch cefnogi chi pan fyddwch chi ein hangen ni. Dewch o hyd i atebion i’r cwestiynau mwyaf cyffredin am fagu plant, neu siaradwch un-i-un gyda hyfforddwr magu plant profiadol. Gallwch ddewis siarad Cymraeg neu Saesneg gyda ni. Mae’r cyfan yn rhad ac am ddim, a does dim un pwnc yn rhy fawr, yn rhy fach nac yn codi cywilydd.
We’re on hand to support you, when you need us. Find answers to the most common parenting questions, or talk one-to-one with an experienced parenting coach. You can talk to us in Welsh or English. It’s all free, and no topic is too big, small, or embarrassing.
Sgwrs fyw gyfrinachol yn rhad ac am ddim gyda hyfforddwr magu plant profiadol, yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Gallwch siarad â ni am unrhyw beth sy’n cefnogi eich llesiant chi, eich plentyn neu eich teulu. Mae rhai pobl eisiau sgwrsio. Mae angen i rai siarad â ni am bethau maen nhw’n teimlo na allan nhw ddweud wrth neb arall.
Gallwn siarad â chi’n rhugl yn y Gymraeg. Peidiwch â bod ofn dweud wrthym eich bod chi eisiau siarad yn Gymraeg.
Anfonwch neges atom yn ystod yr oriau isod a byddwn yn ateb o fewn ychydig funudau.
Free and confidential live chat with an experienced parenting coach, in Welsh or English.
You can talk to us about anything that supports the wellbeing of you, your child, or your family. Some people just want to chat. Some need to talk to us about things they feel they can’t tell anyone else.
We can speak to you fluently in Welsh. Please don’t be afraid to tell us you want to speak in Welsh.
Message us during the hours below and we’ll reply within a few minutes.
Gall heriau magu plant fod yn wahanol iawn yn dibynnu ar oedran eich plentyn. Dewch o hyd i gyngor wedi ei deilwra i oedran eich plentyn. Magu plant.
Parenting challenges can be very different depending on how old your child is. Find advice tailored to your child’s age.
Anogwch eich plentyn i siarad drwy siarad gyda nhw yn yr iaith rydych chi fwyaf cyfarwydd â hi. Gall plant ddysgu mwy nag un iaith ar yr un pryd, o’r eiliad y cânt eu geni.
Encourage your child to talk by talking to them in the language that you know best. Children can learn more than one language at once, from the moment they’re born.
Mae cosb gorfforol fel smacio neu ysgwyd yn niweidiol i blant. Mae’n anghyfreithlon i unrhyw un yng Nghymru gosbi plentyn yn gorfforol.
Physical punishment such as smacking or shaking is harmful to children. It is illegal for anyone in Wales to physically punish a child.